Reviews
Dyma drydedd gyfrol o gerddi Geraint Jarman mewn vers libre , heb briflythrennau a heb atalnodi'n aml iawn rhag ofn bod y rhain yn faen tramgwydd i neb. Er gwaetha ffurf debyg nifer o'r cerddi rhyw ychydig eiriau byrion yn disgyn i lawr canol y ddalen mae tipyn o amrywiaeth yma o ran deunydd: geiriau Si'n James yn angladd Tich Gwilym, ymweliad ' Japan, llefydd yng Nghymru fel Portmeirion a Din Lligwy, y frawddeg annormal a Sushi'r ci.'mae'n cymryd cryn dipyn/i fyw mewn ofn/byrdda smwddio' Sushi druan sydd dan sylw.Mae ambell gerdd ' llinellau tipyn yn hirach fel 'hinsawdd arbennig o fwyn', cerdd gyfareddol sydd fel petai'n cysylltu ' bodlondeb gwaelodol bod mewn ffordd braidd yn spaced,/i> neu'n fwyn hyd yn oed:'tybiais fod un ddeilen llawn sbonc tocyn loteri yn/sgwrsio ' rhwd y gi't...'Mae hon i mi yn un o gerddi gorau'r gyfrol ond bydd rhaid i chi ddarllen gweddill y gerdd os am wybod meddyliau'r gi't ar y pwnc. Rwy'n hoff iawn, hefyd, o 'petawn i 'mond wedi canolbwyntio mwy yn yr ysgol' a'r crefu am:'bl't agored/efo bwyd môr a physgod a salad/a finegar basalmic a pharmesan arno'Mae rhyw ddwy neu dair cerdd braidd yn dywyll i mi ond ar yr un pryd yn awgrymog iawn 'baneri a thrawma' er enghraifft:'ac ar ddesg gofid/ gwelaf/amlenni trist/'di cyfeirio/ond yn dal heb/lythyrau o/egurhad'Cerddi sy'n haeddu mwy nag un darlleniad felly!Cerddi profiad personol yw llawer ohonynt ond nid pob un chwaith. Nid wyf yn gwbl siŵr a yw'r llinellau byrion iawn yn gweithio bob tro ond efallai y byddwch chi'n anghytuno.Robert LaceyGellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiat'd Cyngor Llyfrau Cymru.It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.